Mae patrwm grid gwreiddiol y strydoedd – Y Stryd Fawr bresennol, wedi ei chroesi gan Stryd yr Eglwys, Stryd y Senedd a Stryd Gwindy – yn dal i fod yn ganolog i ‘r Rhuddlan fodern ac mae rhan o’r ffosydd amddiffynnol yn dal i’w gweld rhwng Ffordd yr Apostolion a Choedlan Kerfoot.
Ar gornel Y Stryd Fawr a Stryd y Senedd saif (yn ȏl pob son) Y Senedd-dŷ – nid fel yr honna’r arysgrif safle’r senedd, ond efallai y Llys Barn Canol Oesol.