Skip to main content

Castell Gwrych

Mae llawer yn credu ei fod yn ffolineb llwyr, mae gan Gastell Gwrych hanes aruthrol.

Mae tŷ wedi bod ar y safle yma ers dros 1,000 o flynyddoedd ac hefyd pȃr o gaerau y bryniau cyfagos o’r Oes Haearn ar bob ochr iddo.

Deilliai’n ȏl i gyfnod y Derwyddon a’r Rhufeiniaid a dyma’r lle y daliwyd Rhisiart II. Roedd tŷ o gyfnod y Frenhines Elisabeth I ar y safle a enwyd ‘Y FRON’ (bryn crwn), ond roedd hwn yn adfail erbyn 1810.

Adeiladwyd Castell Gwrych rhwng 1810 a 1825 gan Lloyd Hesket–Bamford-Hesketh i gofio am ei fam a’i gyndeidiau. Ymgorfforwyd tŷ blaenorol oedd ym mherchnogaeth y teulu ers y Canol Oesoedd. O 1894 tan 1924 Winifred Cochrane, Duges Dundonald, aeres teulu’r Hesketh, oedd perchennog y stȃd a daeth yn gartref Teulu’r Dundonald (enw teuluol Cochrane).

Gadawodd y Cowntes y castell yn ei hewyllys i’r Brenin Sior V a’r Tywysog Cymru ar y pryd (yn diweddarach y Brenin Edward VIII).

Serch hynny, gwrthodwyd yr anrheg ac aeth y cyfan i Urdd Hybarchus Sant Ioan.

Yn 1928 prynodd Douglas Cochrane, 12fed Iarll Dundonald, y castell am £78,000 gan werthu cynnwys y castell i dalu amdano.

Yn ystod Yr Ail Ryfel Byd, fel rhan o’r Rhaglen Kindertransport, defnyddiodd y Llywodraeth y castell i gartrefu 200 o ffoaduriaid Iddewig. Trefnwyd y cyfan gan Fudiad Ieuenctid y Seoniaid Iddewig, Ben Akiva.

Ar ȏl y Rhyfel aeth y castell a’r stȃd allan o ddwylo Teulu’r Dundonald ac agorwyd ef i’r cyhoedd fel atyniad i ymwelwyr.

Adnabyddwyd Castell Gwyrch fel ‘Prif Atyniad Cymru’ gan ddenu llawer o ymwelwyr. Yn y 1950’au cynnar, roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel canolfan hyfforddi, Randolph Turpin, Pencampwr Bocsio Pwysau Canol y Byd.

Yn y 1960’au defnyddiwyd ef yn achlysurol gan feicwyr modur Dragon Rally ac fel man ail greu brwydrau canol Oesol i ddenu ymwelwyr.

Roedd y cyfnod rhwng 1962 a 1986 yn un cythryblus iawn gyda drwweithredwyr yn achosi llawer o ddifrod i’r castell. Caeodd ei ddrysau i’r cyhoedd yn 1987.

Yn 1969, roedd gan brynwr o’r America gynlluniau i adnewyddu’r castell, ond ni ddigwyddodd hyn ac fe’i fandaleiddiwyd a chafodd lawer ei ddwyn oddi yno gan wneud y castell yn adfail unwaith eto.

Ceisiodd datblygwyr yn aflwyddiannus i adeiladu ar y safle ac yn y diwedd, ym Mehefin 2018, gwerthwyd Castell Gwyrch a’r Stȃd i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, elusen gofrestredig a olygai y gallent gael grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol.

Y gŵr sy’n gyfrifol am achub y castell yw Dr. Mark Baker, a, fel llanc ifanc, benderfynnodd wneud rhywbeth i adfer y safle o ddirgelwch a hanes

Yn 12 oed, yn 1997, sefydlodd yr Ymddiriedolaeth gyda’r amcan o ddolgelu’r Castell i’r genedl.

Ymlaen a ni i 2018, ac mae’r castell ar ocsiwn unwaith eto, a’r tro hwn galluogwyd yr Ymddiriedolaeth i’w brynu.

Serch hynny, mae Mark yn credo nad yw’r castell yn perthyn iddo ef na’r Ymddiriedolaeth , ond i Genedl y Cymry, gan ofalu bod pob penderfyniad yn cael ei wneud er llês y Genedl.

Yn 2020/21 defnyddiwyd y Castell ar gyfer cynyrchiadau o ‘I’m a Celebrity Get Me Out of Here’. Y tro hwn bydd Brenin neu Frenhines y Castell, gyda llawer o waith adnewyddu ac adeiladu yn digwydd yno. Mae hyn i gyd yn beth da ac yn agor pennod newydd yn hanes Castell Gwrych.