Neuadd Cinmel
Mae Neuadd Cinmel yn enghraifft o “dŷ calendr” gyda 365 o ffenestri, 122 o ystafelloedd, a 12 mynedfa.
Perchennog gwreiddiol Neuadd Cinmel oedd y Parchedig Edward Hughes yn 1786. Yna, bu ym meddiant ei fab, yr Arglwydd Dinorben (1767 – 1852), ac er fod gan yr Arglwydd Dinorben fab, roedd yn anabl a bu farw’n 8 mis oed. Ar ȏl hynny diflannodd y teitl ‘Dinorben’, ac aeth y teitl i gefnder yr Arglwydd Dinorben, Hugh Robert Hughes.
Mae’r tŷ presennol ar ffurf plasty, sy’n llenwi treuan o’r stȃd, wedi ei adeiladu ar gyfer y Teulu Hughes oedd a busnes mwyngloddio copr. Cynlluniwyd y tŷ gan W. E. Nestield yn y 1870’au. Cynlluniwyd y Gerddi Fenisiaidd cyfagos gan ei dad, W. A. Nestfield, a’r stablau’n null Paladaidd Newydd wedi eu cynllunio gan William Burn. Cludwyd y deunydd ar gyfer yr adeiladu o Neuadd Llewenni sy’n ymyl. Gorffennwyd yr adeilad yn y 1850’au.
Mae perchnogaeth o’r tŷ wedi ei reoli gan y Teuluoedd Hughes, Lewis, Fetherstonhaugh a Gill. Mae llawer o dariannau bonheddol yn cael eu harddangos drwy’r tŷ sy’n profi’r undod rhwng y teuluoedd yma.
Defnyddiwyd yr adeilad ddiwethaf fel cartref preifat yn 1929, ac, ar ȏl hynny, newidiodd Mrs. Florence Lindley, cyn brif athrawes Coleg Lowther, ddefydd y safle i fod yn ganolfan iechyd i drin pobl oedd yn dioddef o grud cymalau.
Ar ȏl Yr Ail Ryfel Byd, daeth yr adeilad yn Ysgol Clarendon i Ferched, ond ar ȏl tȃn anferth gorfodwyd yr ysgol i gau a symud i Swydd Bedford.
Adferwyd y Neuadd gan ŵr busnes, Eddie Vince, fel Canolfan Gynadledda Cristnogol. Yna, gwerthwyd y tŷ mewn ocsiwn yn 2001, ond ni ddigwyddodd y datblygiadau afraethedig.
Teulu’r Fetherstonhaugh oedd perchnogion y stȃd a amgylchynai’r Neuadd ers 1786, ond gwerthwyd rhyddfraint y Neuadd yn 2001.
Adnabyddwyd Neuadd Cinmel gan gymdeithas Oes Fictoria fel un o’r deg adeilad Fictorianaidd neu Edwardaidd mwyaf mewn perygl yn 2015, ac, yn 2021, cychwynwyd ‘Ymgyrch Atgyfodi Cinmel’ gyda’r bwriad o godi cywilydd ar y perchnogion i unai ddatgan beth oedd eu bwriadau ynghylch yr adeilad, ei adfer yn llwyr, neu ei werthu. Rhoddwyd pwysau hefyd ar Gyngor Sir Conwy a Llywodraeth Cymru i helpu i ddiogelu’r adeilad. Mae’r broses yma’n dal i fynd yn ei blaen. Gobeithio y caiff yr adeilad ei ddiogelu a’i ddychwelyd i’w hen enw ‘Versailles Cymru’ neu hyd yn oed ‘Disgownt Downton’.