Castell Yr Wyddgrug
Mae Castell yr Wyddgrug yn cynnwys olion caer pren mwnt a beili Rhufeinig a adeiladwyd ar fryn naturiol.
Mae’r cofnodion cyntaf o gastell yma’n deillio’n ȏl i 1146 ond mae’n fwy tebygol bod y castell a welwn ni heddiw’n dyddio’n ȏl i 1100.
Castell Yr Wyddgrug oedd y mwyaf o nifer o gestyll a adeiladwyd gan y Normaniaid ar hyn Dyffryn Alun. Anturwyr yn bennaf oedd adeiladwyr y cestyll yn cerfio manoriaethau iddynt eu hunain ar gyrion tiroedd y Saeson oedd yn cael eu rheoli gan y Normaniaid. Yr unig beth rydym yn ei wybod am sylfaenydd Castell Yr Wyddgrug yw mai milwr Normanaidd ydoedd a’i enw oedd Robert.
Yn ystod y 12fed a’r 13eg ganrif, newidiodd y castell ddwylo pump gwaith wrth i’r Normaniaid ymladd yn erbyn y Cymry brodorol am reolaeth o’r ardal. Daliodd Owain Gwynedd yr ardal yn 1147, ac yn 1167, enillodd Harri III y cyfan yn ȏl i’r Saeson. Daw y dystiolaeth ysgrifenedig olaf am oresgyniad y castell 1244. Yn gynnar yn y 14eg, rheolwyd yr ardal gan Deulu’r Montalt, ond bu farw’r Montalt olaf, Arglwydd Yr Wyddgrug, yn 1329. Ar ȏl hyn, gadawyd y castel i droi’n adfail a chollodd ei bwysigrwydd militaraidd.
Yn ystod Y Rhyfel Cartref concrwyd Yr Wyddgrug gan Y Seneddwyr, ei adennill gan Y Brenhinwyr, cyn ei adennill am y tro olaf gan Cromwell yn 1648. Yn 1790, amgylchynwyd Bryn Tŵr gan furiau o gerrig a godwyd gan Deulu Mostyn. Plannwyd coed ar y safle er mwyn creu gardd daclus. Yn 1890, gwerthwyd y safle i Gyngor Yr Wyddgrug ac yn 1920 cofnodwyd hi fel Gardd Goffa er cȏf am y milwyr o’r Wyddgrug a gollodd eu bywydau’n Y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Castell Yr Wyddgrug yn safle cyfareddol. Mae coed yn cuddio ffȏs y castell, ond mae’n ddiddorol gweld sut mae’r safle a gynlluniwyd gan y Normaniaid wedi esblygu dros amser a’i drawsnewid i barc cyhoeddus a Cherrig yr Orsedd sy’n edrych fel Cylch o Gerrig o’r Oesoedd Cynnar er mai yn 1923 y cawsont eu codi. Mae’r cyfan yn rhoi rhyw awyrgylch o natur ddigyfnewid a hanesyddol y safle.